Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (169)v5 |
Teyrngedau i Nelson Mandela |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: PISA 2012 (30 munud)
|
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y llifogydd diweddar yng ngogledd Cymru (30 munud)
|
5 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Dŵr (15 munud) NDM5303 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried darpariaethau'r Bil Dŵr fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 27 Mehefin 2013, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). I weld copi o’r Bil ewch i: Bill documents – Water Bill [HC] 2013-14 – UK Parliament
Dogfen Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Adroddiad ar y Bil Dŵr
|
6 Dadl ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2014-15 (60 munud) NDM5382 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25: Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 3 Rhagfyr 2013. Troednodyn: Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: 1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; 2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; 3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig; 4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a 5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i’w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Darparwyd yr wybodaeth atodol ganlynol i’r Aelodau: • Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Flynyddol.
Dogfen Ategol Adroddiad ar Waith Craffu’r Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15
|
7 Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy (60 munud) NDM5381 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2013. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi gyda phryder y sylwadau a wnaed yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o ddatblygu cynaliadwy, a bod “gwendidau systemig yn y strwythurau llywodraethu presennol ar gyfer datblygu cynaliadwy” o hyd.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu “’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i nodir yn”.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y rôl ganolog y mae addysg yn ei chwarae wrth ddatblygu dyfodol cynaliadwy i Gymru ac yn croesawu adolygiad thematig Estyn o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang er mwyn gwella ei ffocws a chanfod gwelliannau.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y gostyngiad yn lefelau caffael bwyd lleol y sector cyhoeddus, nad oedd y strategaeth ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru’ bresennol yn addas i'r diben ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun labelu cynhwysfawr ar gyfer bwyd a diod o Gymru. Mae ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru – Strategaeth Fwyd i Gymru’ ar gael yn: http://wales.gov.uk/docs/drah/publications/101207foodforwalesfoodfromwalescy.pdf
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i gasglu tystiolaeth gan y rheini sydd â phrofiad ymarferol wrth ffurfio polisïau datblygu cynaliadwy a’u cynnwys mewn partneriaethau cyflawni.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi adroddiad ar sut y mae polisïau yn y Rhaglen Lywodraethu yn gysylltiedig â’r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y cyfraniad a wnaed gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn ei sylwadau ar yr adroddiad.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am Fil Cenedlaethau’r Dyfodol cadarn ac effeithiol i roi sylw priodol i'r pwyntiau a godwyd gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ac i'r Gweinidog ymgysylltu â phob plaid a'r gymdeithas ddinesig ehangach wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn.
Dogfen Ategol Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy
|
8 Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (60 munud) Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Microsglodynnu 1,2,3
2. Gwaredu ceffylau sydd wedi eu cadw 4
3. Costau a dynnir gan drydydd part ï on 9,10
4. Person penodedig ar gyfer anghydfod 6, 7
5. Canllawiau 5, 8
Dogfennau Ategol Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli
|
9 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (5 munud) Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.
|
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 11 Rhagfyr 2013